SL(5)208 - Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2018
Cefndir a Diben
Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2018 (“Gorchymyn 2018”) yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyfraddau tâl isaf a'r telerau a'r amodau cyflogaeth eraill i weithwyr amaethyddol.
Mae Gorchymyn 2018 yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2017 (“Gorchymyn 2017”) gyda newidiadau sy'n cynyddu lefelau cyflog 2017 ar gyfer gweithwyr amaethyddol.
Y weithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(v) - mae angen eglurhad pellach ar ystyr yr offeryn.
Yn gryno, mae erthygl 15(1) yn dweud, pan fo cyflogwr yn darparu tŷ i weithiwr amaethyddol, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £1.50 oddi ar isafswm cyflog y gweithiwr amaethyddol.
Yn gryno, mae erthygl 15(2) yn dweud, pan fo cyflogwr yn darparu “llety arall” i weithiwr amaethyddol, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £4.82 oddi ar isafswm cyflog y gweithiwr amaethyddol.
Ymddengys fod didyniad o £4.82 yr awr yn ddidyniad mawr iawn o ystyried y cyfraddau fesul awr sy'n berthnasol i weithwyr amaethyddol. Felly, byddem yn gwerthfawrogi: (1) cadarnhad o p'un a yw ein dealltwriaeth o erthyglau 15(1) a 15(2) yn gywir, a (2) rhagor o wybodaeth am ddarparu "llety arall" a'r didyniad a ganiateir o dan erthygl 15(2).
2. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ymddengys fod anghysondeb rhwng ystyr y testun Cymraeg a'r testun Saesneg.
Mae Erthygl 43(2) yn y Gymraeg yn gwneud trefniadau trosiannol ar gyfer "gweithiwr amaethyddol a gyflogir fel gweithiwr ar Radd neu fel prentis ond nid fel gweithiwr hyblyg”.
Mae Erthygl 43(2) yn y Saesneg yn gwneud trefniadau trosiannol ar gyfer "gweithiwr amaethyddol a gyflogir fel gweithiwr ar Radd neu fel prentis”. Felly, yn y Saesneg nid oes sôn am weithwyr hyblyg.
Craffu ar y rhinweddau
Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – mae'r offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu mae'n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.
Byddem yn croesawu eglurhad ynghylch pam na wnaed y Gorchymyn 2018 hwn tan 27 Mawrth 2018 ac na chafodd ei osod tan ar ôl 16.00 ar 29 Mawrth 2018 (Dydd Iau'r Gofid), yn enwedig o gofio ei ddyddiad dod i rym ar 1 Ebrill 2018 (Dydd Sul y Pasg).
Nodwn y cynhaliwyd ymgynghoriad yn ystod hydref 2017, ac y cafodd y newidiadau yn y cyfraddau cyflogau sylfaenol a byw cenedlaethol eu gwneud ddiwedd mis Tachwedd 2017 a arweiniodd at adolygiad. Byddem yn croesawu eglurhad ynghylch pam y cymerodd dros bedwar mis i adlewyrchu'r adolygiad mewn Gorchymyn terfynol 2018.
Byddem hefyd yn croesawu eglurhad ynghylch pam na chawsom ein hysbysu'n ffurfiol cyn y problemau gyda'r Gorchymyn hwn o ystyried bod torri'r rheol 21 diwrnod wedi digwydd ar 9 Mawrth 2018.
Yn ogystal â materion o ran amseru a chyfathrebu, teimlwn hefyd yr angen i fynegi'r pryder hwn oherwydd bod gorchymyn y llynedd (h.y. Gorchymyn 2017) hefyd wedi torri'r rheol 21 diwrnod, pan gafodd ei wneud ar 2 Tachwedd 2017 ac y daeth i rym ar 3 Tachwedd 2017.
Y goblygiadau yn sgil ymadael â'r Undeb Ewropeaidd
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Ymateb y Llywodraeth
Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
12 Ebrill 2018